Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gŵydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft.

10. Felly euthum â hwy allan o wlad yr Aifft a mynd â hwy i'r anialwch.

11. Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt.

12. Rhoddais iddynt hefyd fy Sabothau yn arwydd rhyngom, er mwyn iddynt wybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yn eu sancteiddio.

13. “ ‘Ond gwrthryfelodd tylwyth Israel yn f'erbyn yn yr anialwch. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, ac yr oeddent yn gwrthod fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yn halogi'n llwyr fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid arnynt yn yr anialwch a'u difetha;

14. eto gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd.

15. Tyngais wrthynt yn yr anialwch na fyddwn yn dod â hwy i'r wlad a roddais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd,

16. oherwydd iddynt wrthod fy marnau a pheidio â chadw fy neddfau, ond halogi fy Sabothau, am fod eu calon yn dilyn eu heilunod.

17. Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch.

18. Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, “Peidiwch â dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain â'u heilunod.

19. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20