Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:34-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Dof â chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig.

35. Dof â chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb.

36. Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW.

37. Gwnaf i chwi fynd heibio dan y wialen, a'ch dwyn i rwymyn y cyfamod.

38. Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod â hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid ânt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

39. “A chwithau, dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siŵr o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd â'ch rhoddion ac â'ch eilunod.

40. Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel Israel, medd yr Arglwydd DDUW, y bydd holl dŷ Israel, a phob un sydd yn y wlad, yn fy addoli, ac yno y derbyniaf hwy. Yno y ceisiaf eich aberthau a'ch offrymau gorau, ynghyd â'ch holl aberthau sanctaidd.

41. Fe'ch derbyniaf chwi fel arogldarth peraidd, pan ddof â chwi allan o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a sancteiddiaf fy hun ynoch chwi yng ngŵydd y cenhedloedd.

42. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan ddof â chwi i dir Israel, y wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid.

43. Yno byddwch yn cofio eich ffyrdd, a'r holl bethau a wnaethoch i'ch halogi eich hunain, a byddwch yn eich casáu eich hunain am yr holl ddrygioni a wnaethoch.

44. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn ymwneud â chwi er mwyn fy enw, ac nid yn ôl eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.”

45. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20