Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch.

18. Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, “Peidiwch â dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain â'u heilunod.

19. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau.

20. Cadwch fy Sabothau'n sanctaidd, iddynt fod yn arwydd rhyngom, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”

21. “ ‘Ond gwrthryfelodd eu plant yn fy erbyn. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, nac yn cadw fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yr oeddent yn halogi fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yn yr anialwch.

22. Ond ateliais fy llaw a gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd.

23. Tyngais wrthynt yn yr anialwch y byddwn yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd,

24. oherwydd iddynt beidio â gwneud fy marnau, ond gwrthod fy neddfau, halogi fy Sabothau, a throi eu llygaid at eilunod eu hynafiaid.

25. Yn wir, rhoddais iddynt ddeddfau heb fod yn dda, a barnau na allent fyw wrthynt;

26. gwneuthum iddynt eu halogi eu hunain â'u rhoddion trwy aberthu pob cyntafanedig, er mwyn imi eu brawychu, ac er mwyn iddynt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

27. “Felly, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn hyn hefyd y bu i'ch hynafiaid fy nghablu a bod yn anffyddlon imi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20