Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 17:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ond yr oedd eryr mawr arall, a chanddo adenydd cryfion a digon o blu, a throdd y winwydden hon ei gwreiddiau i'w gyfeiriad ef, ac o'r rhandir lle plannwyd hi anfonodd allan ganghennau ato ef i geisio dŵr.

8. Fe'i trawsblannwyd mewn daear dda wrth ddigon o ddŵr er mwyn iddi dyfu canghennau, cynhyrchu ffrwyth a dod yn winwydden odidog.’

9. Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ffynna hi? Oni chodir ei gwreiddiau hi, a thynnu ei ffrwyth? Oni wywa ei thyfiant newydd hi yn llwyr, nes y gellir tynnu ymaith ei gwreiddiau heb fraich gref na llawer o bobl?

10. Os trawsblennir hi, a ffynna? Oni wywa'n llwyr, fel petai wedi ei tharo gan wynt y dwyrain—gwywo ar y rhandir lle bu'n tyfu?’ ”

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

12. “Dywed wrth y tylwyth gwrthryfelgar hwn, ‘Oni wyddoch beth a olyga hyn?’ Dywed, ‘Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd ei brenin a'i thywysogion, a mynd â hwy gydag ef i Fabilon.

13. Yna cymerodd un o'r teulu brenhinol, a gwneud cytundeb ag ef a'i osod dan lw. Aeth ag arweinwyr y wlad ymaith,

14. er mwyn darostwng y deyrnas, rhag iddi godi drachefn; ac ni allai sefyll ond trwy gadw cytundeb ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 17