Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:58-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. Byddi'n derbyn cosb dy anlladrwydd a'th ffieidd-dra, medd yr ARGLWYDD.

59. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwnaf â thi yn ôl dy haeddiant, am iti ddiystyru llw a thorri cyfamod;

60. eto fe gofiaf fi fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, a sefydlaf gyfamod tragwyddol â thi.

61. Yna, fe gofi dy ffyrdd, a chywilyddio pan dderbynni dy chwiorydd, y rhai hŷn na thi a'r rhai iau na thi; rhof hwy yn ferched i ti, ond nid oherwydd fy nghyfamod â thi.

62. Felly, sefydlaf fy nghyfamod â thi, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

63. Fe gofi a chywilyddio, ac nid agori dy enau rhagor, oherwydd dy warth pan faddeuaf fi iti am y cyfan a wnaethost, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16