Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:53-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. “ ‘Eto, adferaf eu llwyddiant—llwyddiant Sodom a'i merched, a llwyddiant Samaria a'i merched—ac adferaf dy lwyddiant dithau gyda hwy,

54. er mwyn iti dderbyn dy warth, a bod arnat gywilydd o'r cyfan a wnaethost, er iti ddwyn cysur iddynt hwy.

55. Bydd dy chwiorydd Sodom a Samaria, a'u merched, yn dychwelyd i'w cyflwr blaenorol, a byddi dithau a'th ferched yn dychwelyd i'ch cyflwr blaenorol.

56. Nid oedd unrhyw sôn gennyt am dy chwaer Sodom yn nydd dy falchder,

57. cyn datguddio dy ddrygioni. Ond yn awr daethost fel hithau, yn destun gwaradwydd i ferched Edom a'r holl rai sydd o'u hamgylch, ac i ferched Philistia, sef yr holl rai o'th amgylch sy'n dy ddilorni.

58. Byddi'n derbyn cosb dy anlladrwydd a'th ffieidd-dra, medd yr ARGLWYDD.

59. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwnaf â thi yn ôl dy haeddiant, am iti ddiystyru llw a thorri cyfamod;

60. eto fe gofiaf fi fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, a sefydlaf gyfamod tragwyddol â thi.

61. Yna, fe gofi dy ffyrdd, a chywilyddio pan dderbynni dy chwiorydd, y rhai hŷn na thi a'r rhai iau na thi; rhof hwy yn ferched i ti, ond nid oherwydd fy nghyfamod â thi.

62. Felly, sefydlaf fy nghyfamod â thi, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

63. Fe gofi a chywilyddio, ac nid agori dy enau rhagor, oherwydd dy warth pan faddeuaf fi iti am y cyfan a wnaethost, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16