Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:44-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. “ ‘Bydd pob un sy'n defnyddio diarhebion yn dweud y ddihareb hon amdanat: “Fel y fam y bydd y ferch.”

45. Yr wyt ti'n ferch i'th fam, a gasaodd ei gŵr a'i phlant, ac yn chwaer i'th chwiorydd, a gasaodd eu gwŷr a'u plant; Hethiad oedd eich mam, a'ch tad yn Amoriad.

46. Dy chwaer hynaf oedd Samaria, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r gogledd, a'th chwaer ieuengaf oedd Sodom, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r de.

47. Nid yn unig fe gerddaist yn eu ffyrdd hwy a dilyn eu ffieidd-dra, ond ymhen ychydig amser yr oeddit yn fwy llygredig na hwy yn dy holl ffyrdd.

48. Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni wnaeth dy chwaer Sodom a'i merched fel y gwnaethost ti a'th ferched.

49. Hyn oedd drygioni dy chwaer Sodom: yr oedd hi a'i merched yn falch, yn gorfwyta, ac mewn esmwythyd diofal; ond ni roesant gymorth i'r tlawd anghenus.

50. Bu iddynt ymddyrchafu a gwneud ffieidd-dra o'm blaen; felly fe'u symudais ymaith, fel y gwelaist.

51. Ni wnaeth Samaria chwaith hanner dy ddrygioni di. Gwnaethost fwy o ffieidd-dra na hwy, a pheri i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn ar gyfrif yr holl bethau ffiaidd a wnaethost ti.

52. Derbyn di felly warth, oherwydd sicrheaist ddedfryd ffafriol i'th chwiorydd; am fod dy ddrygioni di yn fwy ffiaidd na'r eiddo hwy, ymddangosant hwy yn fwy cyfiawn na thi. Felly, cywilyddia a derbyn dy warth, oherwydd gwnaethost i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16