37. felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casáu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.
38. Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.
39. A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.
40. Dônt â thyrfa yn dy erbyn, ac fe'th labyddiant â cherrig a'th rwygo â'u cleddyfau.
41. Llosgant dy dai, a rhoi cosb arnat yng ngŵydd llawer o wragedd. Rhof ddiwedd ar dy buteindra, ac ni fyddi'n talu eto i'th gariadon.
42. Yna gwnaf i'm llid gilio, a throf ymaith fy eiddigedd oddi wrthyt; ymdawelaf, ac ni ddigiaf rhagor.
43. Am iti anghofio dyddiau dy ieuenctid, a'm cynddeiriogi â'r holl bethau hyn, felly byddaf finnau'n peri i'r hyn a wnaethost ddod ar dy ben di dy hun, medd yr Arglwydd DDUW. Oni wnaethost anlladrwydd yn ogystal â'th holl ffieidd-dra?
44. “ ‘Bydd pob un sy'n defnyddio diarhebion yn dweud y ddihareb hon amdanat: “Fel y fam y bydd y ferch.”