Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:31-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Pan godaist dy lwyfan ar ben pob stryd, a gwneud dy uchelfa ym mhob sgwâr, eto nid oeddit yn union fel putain, gan dy fod yn dirmygu tâl.

32. O wraig o butain, cymeraist estroniaid yn lle dy ŵr.

33. Derbyn tâl y mae pob putain, ond rhoi tâl yr wyt ti i'th holl gariadon, gan eu llwgrwobrwyo i ddod atat o bob man i buteinio gyda thi.

34. Yr wyt yn wahanol i wragedd eraill yn dy buteindra; nid oes neb yn dy geisio di; yr wyt yn rhoi tâl yn lle derbyn tâl, a dyna'r gwahaniaeth.

35. “ ‘Felly, butain, gwrando ar air yr ARGLWYDD.

36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,

37. felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casáu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.

38. Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.

39. A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.

40. Dônt â thyrfa yn dy erbyn, ac fe'th labyddiant â cherrig a'th rwygo â'u cleddyfau.

41. Llosgant dy dai, a rhoi cosb arnat yng ngŵydd llawer o wragedd. Rhof ddiwedd ar dy buteindra, ac ni fyddi'n talu eto i'th gariadon.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16