Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:28-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Puteiniaist hefyd gyda'r Asyriaid, am dy fod heb dy ddigoni; ac wedi iti buteinio, nid oeddit eto wedi cael digon.

29. Cynyddaist dy buteindra hyd at Caldea, gwlad o fasnachwyr, ac eto ni chefaist ddigon.

30. “ ‘Mor ddolurus yw dy galon, medd yr Arglwydd DDUW, dy fod yn gwneud yr holl bethau hyn, ac yn gweithredu fel putain ddigywilydd!

31. Pan godaist dy lwyfan ar ben pob stryd, a gwneud dy uchelfa ym mhob sgwâr, eto nid oeddit yn union fel putain, gan dy fod yn dirmygu tâl.

32. O wraig o butain, cymeraist estroniaid yn lle dy ŵr.

33. Derbyn tâl y mae pob putain, ond rhoi tâl yr wyt ti i'th holl gariadon, gan eu llwgrwobrwyo i ddod atat o bob man i buteinio gyda thi.

34. Yr wyt yn wahanol i wragedd eraill yn dy buteindra; nid oes neb yn dy geisio di; yr wyt yn rhoi tâl yn lle derbyn tâl, a dyna'r gwahaniaeth.

35. “ ‘Felly, butain, gwrando ar air yr ARGLWYDD.

36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,

37. felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casáu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.

38. Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.

39. A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16