Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Cymeraist rai o'th ddillad, a gwneud i ti dy hun uchelfeydd lliwgar, a phuteiniaist yno; ni fu peth fel hyn, ac ni fydd ychwaith.

17. Cymeraist hefyd dy dlysau prydferth, y tlysau o aur ac arian a roddais iti, a gwnaethost i ti dy hun eilunod gwryw a phuteinio gyda hwy;

18. cymeraist dy ddillad o frodwaith i'w gorchuddio, ac offrymu fy olew a'm harogldarth o'u blaenau.

19. A'r bwyd a roddais iti—oherwydd bwydais di â pheilliaid, olew a mêl—fe'i rhoddaist o'u blaenau yn arogldarth hyfryd; fel hyn y bu, medd yr Arglwydd DDUW.

20. Cymeraist dy feibion a'th ferched, a oedd yn blant i mi, a'u hoffrymu yn fwyd iddynt; a oedd hyn yn llai o beth na'th buteindra?

21. Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.

22. Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. “ ‘Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),

24. adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwâr.

25. Ar ben pob stryd codaist dy uchelfa, a halogi dy brydferthwch gan ledu dy goesau i bob un a âi heibio, a phuteinio'n ddiddiwedd.

26. Puteiniaist gyda'r Eifftiaid, dy gymdogion trachwantus, ac ennyn fy nig â'th buteindra diddiwedd.

27. Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.

28. Puteiniaist hefyd gyda'r Asyriaid, am dy fod heb dy ddigoni; ac wedi iti buteinio, nid oeddit eto wedi cael digon.

29. Cynyddaist dy buteindra hyd at Caldea, gwlad o fasnachwyr, ac eto ni chefaist ddigon.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16