Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 15:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r tân ei difa ac iddi olosgi?

6. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fel y rhoddais bren y winwydden o blith coed y goedwig yn gynnud i'r tân, felly y gwnaf i drigolion Jerwsalem.

7. Byddaf yn gosod fy wyneb yn eu herbyn; er iddynt ddod allan o'r tân, eto bydd y tân yn eu difa. A phan osodaf fy wyneb yn eu herbyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8. Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch, am iddynt fod yn anffyddlon, medd yr Arglwydd DDUW.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 15