Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 14:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Gwnaf hyn er mwyn cydio yng nghalonnau tŷ Israel, gan eu bod i gyd wedi ymddieithrio oddi wrthyf trwy eu heilunod.’

6. Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich eilunod ac oddi wrth eich holl ffieidd-dra.

7. Pan fydd unrhyw un o dŷ Israel, neu unrhyw estron sy'n byw yn Israel, yn ymddieithrio oddi wrthyf, yn codi ei eilunod yn ei galon, ac yn gosod ei dramgwydd pechadurus o'i flaen, ac yna'n dod at broffwyd i ymofyn â mi, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn ei ateb fy hunan.

8. Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw, ac yn ei wneud yn esiampl ac yn ddihareb, ac yn ei dorri ymaith o blith fy mhobl; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

9. Os twyllir y proffwyd i lefaru neges, myfi, yr ARGLWYDD, a dwyllodd y proffwyd hwnnw, a byddaf yn estyn fy llaw yn ei erbyn ac yn ei ddinistrio o blith fy mhobl Israel.

10. Byddant yn dwyn eu cosb—yr un fydd cosb y proffwyd â chosb y sawl sy'n ymofyn ag ef—

11. rhag i dŷ Israel byth eto fynd ar gyfeiliorn oddi wrthyf na'u halogi eu hunain rhagor â'u holl ddrygioni; ond byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

12. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

13. “Fab dyn, os bydd gwlad yn pechu yn f'erbyn trwy fod yn anffyddlon, a minnau'n estyn fy llaw yn ei herbyn, yn torri ei chynhaliaeth o fara, yn anfon newyn arni, ac yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail;

14. hyd yn oed pe byddai Noa, Daniel a Job, y tri ohonynt, yn ei chanol, ni fyddent yn arbed ond eu bywydau eu hunain trwy eu cyfiawnder,” medd yr Arglwydd DDUW.

15. “Neu pe bawn yn anfon bwystfilod gwylltion i'r wlad, a hwythau'n ei diboblogi, a'i gwneud yn ddiffeithwch, heb neb yn mynd trwyddi o achos y bwystfilod,

16. cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid, ond byddai'r wlad yn ddiffeithwch.

17. Neu, pe bawn yn dwyn cleddyf ar y wlad honno ac yn dweud, ‘Aed cleddyf trwy'r wlad’, a phe bawn yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail,

18. cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 14