Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 14:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. hyd yn oed pe byddai Noa, Daniel a Job, y tri ohonynt, yn ei chanol, ni fyddent yn arbed ond eu bywydau eu hunain trwy eu cyfiawnder,” medd yr Arglwydd DDUW.

15. “Neu pe bawn yn anfon bwystfilod gwylltion i'r wlad, a hwythau'n ei diboblogi, a'i gwneud yn ddiffeithwch, heb neb yn mynd trwyddi o achos y bwystfilod,

16. cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid, ond byddai'r wlad yn ddiffeithwch.

17. Neu, pe bawn yn dwyn cleddyf ar y wlad honno ac yn dweud, ‘Aed cleddyf trwy'r wlad’, a phe bawn yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail,

18. cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid.

19. Neu, pe bawn yn anfon pla i'r wlad honno, ac yn tywallt fy nig arni trwy dywallt gwaed, ac yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail,

20. cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai Noa, Daniel a Job ynddi, ni fyddent yn arbed na mab na merch. Eu bywydau eu hunain yn unig a arbedent trwy eu cyfiawnder.

21. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Pa faint gwaeth y bydd pan anfonaf ar Jerwsalem fy mhedair cosb erchyll, sef cleddyf, newyn, bwystfilod gwylltion a phla, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail.

22. Eto, fe arbedir gweddill ynddi, sef meibion a merched a ddygir allan; dônt allan atat, a phan weli eu hymddygiad a'u gweithredoedd, fe'th gysurir am y drwg a ddygais ar Jerwsalem; yn wir, am bob drwg a ddygais arni.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 14