Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 14:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth rhai o henuriaid Israel ataf ac eistedd i lawr o'm blaen.

2. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

3. “Fab dyn, y mae'r dynion hyn wedi codi eu heilunod yn eu calonnau ac wedi gosod eu tramgwydd pechadurus o'u blaenau. A adawaf iddynt ymofyn â mi o gwbl?

4. Felly, llefara wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Pan fydd unrhyw un o dŷ Israel sydd wedi codi ei eilunod yn ei galon ac wedi gosod ei dramgwydd pechadurus o'i flaen yn dod at broffwyd, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn ei ateb fy hunan, yn ôl ei holl eilunod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 14