Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn: yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn,

17. a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyfeiriad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.

18. Yr oedd ganddynt gylchau, ac fel yr edrychwn arnynt yr oedd eu cylchau—y pedwar ohonynt—yn llawn o lygaid oddi amgylch.

19. Pan gerddai'r creaduriaid, symudai'r olwynion oedd wrth eu hochr; a phan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion hefyd.

20. Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

21. Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

22. Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn arswydus; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod.

23. O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

24. Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

25. Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

26. Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol.

27. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch.

28. Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1