Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yr oedd pob un yn cerdded yn syth yn ei flaen i ble bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd; nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded.

13. Ac ymhlith y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tân yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid; yr oedd y tân yn ddisglair, a mellt yn dod allan o'i ganol.

14. Yr oedd y creaduriaid yn symud yn ôl ac ymlaen, yn debyg i fflachiad mellten.

15. Fel yr oeddwn yn edrych ar y creaduriaid, gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb.

16. Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn: yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn,

17. a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyfeiriad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.

18. Yr oedd ganddynt gylchau, ac fel yr edrychwn arnynt yr oedd eu cylchau—y pedwar ohonynt—yn llawn o lygaid oddi amgylch.

19. Pan gerddai'r creaduriaid, symudai'r olwynion oedd wrth eu hochr; a phan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion hefyd.

20. Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

21. Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1