Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar y pumed dydd o'r pedwerydd mis yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, a minnau ymysg y caethgludion wrth afon Chebar, agorwyd y nefoedd a chefais weledigaethau o Dduw.

2. Ar y pumed dydd o'r mis ym mhumed flwyddyn caethgludiad y Brenin Jehoiachin,

3. daeth gair yr ARGLWYDD at yr offeiriad Eseciel fab Busi yn Caldea, wrth afon Chebar; ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno.

4. Wrth imi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a thân yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y tân rywbeth tebyg i belydrau pres.

5. Ac o'i ganol daeth ffurf pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddent ar ddull dynol,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1