Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar y pumed dydd o'r pedwerydd mis yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, a minnau ymysg y caethgludion wrth afon Chebar, agorwyd y nefoedd a chefais weledigaethau o Dduw.

2. Ar y pumed dydd o'r mis ym mhumed flwyddyn caethgludiad y Brenin Jehoiachin,

3. daeth gair yr ARGLWYDD at yr offeiriad Eseciel fab Busi yn Caldea, wrth afon Chebar; ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno.

4. Wrth imi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a thân yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y tân rywbeth tebyg i belydrau pres.

5. Ac o'i ganol daeth ffurf pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddent ar ddull dynol,

6. gyda phedwar wyneb a phedair adain i bob un ohonynt;

7. yr oedd eu coesau yn syth, a gwadnau eu traed fel gwadnau llo, ac yr oeddent yn disgleirio fel efydd gloyw.

8. Yr oedd ganddynt ddwylo dynol o dan bob un o'u pedair adain; yr oedd gan y pedwar wynebau ac adenydd,

9. ac yr oedd eu hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd. Nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded, ond fe âi pob un yn syth yn ei flaen.

10. Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1