Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 8:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid ag ymryson â llywodraethwr,rhag iti syrthio i'w ddwylo.

2. Paid ag ymgiprys â'r cyfoethog,rhag iddo gynnig talu mwy na thi.Oherwydd bu aur yn ddinistr i laweroedd,ac yn achos i frenhinoedd fynd ar gyfeiliorn.

3. Paid â dadlau â rhywun sy'n dafod i gyd,na llwytho coed ar ei dân ef.

4. Paid â gwatwar y diaddysg,rhag i'th hynafiaid di gael eu hamharchu.

5. Paid ag edliw i neb y pechod y maeeisoes yn troi oddi wrtho;cofia fod pob un ohonom yn haeddu cosb.

6. Paid ag amharchu neb yn ei henaint,oherwydd heneiddio y mae llawer ohonom ninnau.

7. Paid ag ymfalchïo ym marwolaeth neb;cofia mai marw a wnawn ni i gyd.

8. Paid â diystyru'r hyn a draetha'r doeth,ond ymgydnabod â'u diarhebion;oherwydd ganddynt hwy y cei addysga hyfforddiant i weini ar fawrion.

9. Paid â gwyro oddi wrth yr hyn a draetha'r rhai sy'n llawn dyddiau,oherwydd gan eu hynafiaid y dysgasant hwythau;ganddynt hwy y dysgi di ddealla rhoi ateb yn awr yr angen.

10. Paid â chynnau golosg pechadur,rhag iti gael dy losgi yn fflam ei dân.

11. Paid â gadael y rhyfygus o'th olwg,rhag iddo ymguddio i'th faglu ar dy air.

12. Paid â rhoi benthyg i rywun cryfach na thi,ac os gwnei, cyfrif dy hun yn golledwr.

13. Paid â mechnïo uwchlaw dy allu i dalu,ac os gwnei, cofia mai ti fydd y talwr.

14. Paid ag ymgyfreithio â barnwr,oherwydd o'i blaid ef y dyfernir, ar bwys ei safle.

15. Paid â chyd-deithio â rhywun beiddgar,rhag iddo dy lethu'n llwyr,oherwydd bydd ef yn gwneud fel y myn ef ei hun,a thrwy ei ffolineb fe drengi dithau gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 8