Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 7:9-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Paid â dweud, “Fe sylwa Duw ar luosogrwydd fy rhoddion,ac fe dderbyn y Goruchaf yr offrwm a ddygaf iddo.”

10. Paid â bod yn wangalon yn dy weddi,nac esgeuluso rhoi elusen.

11. Paid â chwerthin am ben rhywun yng nghanol profiad chwerw,oherwydd yr Un sy'n darostwng sy'n dyrchafu hefyd.

12. Paid â phalu celwydd yn erbyn dy frawd,na gwneud dim tebyg i gyfaill chwaith.

13. Paid byth â dymuno dweud unrhyw gelwydd,oherwydd ni ddaw dim da o ddilyn arferiad felly.

14. Paid â bod yn dafodrydd yng nghwmni henuriaid,nac ailadrodd dy eiriau yn dy weddi.

15. Paid â chasáu gwaith llafurusna gwaith ar y tir; fe'u hordeiniwyd gan y Goruchaf.

16. Paid ag ymrestru yn rhengoedd y pechaduriaid;cofia na fydd oedi ar ddigofaint.

17. Darostwng dy hunan i'r eithaf,oherwydd tân a phryf fydd cosb yr annuwiol.

18. Paid â chyfnewid cyfaill am elw,na brawd cywir am aur Offir.

19. Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da,oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.

20. Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest,na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.

21. Boed iti garu gwas deallus;paid â gwrthod ei ryddid iddo.

22. Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt,ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.

23. Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy,a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.

24. Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.

25. Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 7