Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 7:22-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt,ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.

23. Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy,a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.

24. Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.

25. Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.

26. Os oes gennyt wraig wrth dy fodd, paid â'i bwrw hi ymaith,ond paid â'th ymddiried dy hun i wraig sy'n atgas gennyt.

27. Anrhydedda dy dad â'th holl galon,a phaid ag anghofio gwewyr esgor dy fam.

28. Cofia mai ohonynt hwy y cefaist dy eni.Sut y gelli dalu'n ôl iddynt am a wnaethant hwy i ti?

29. Ofna'r Arglwydd â'th holl enaid,a pharcha'i offeiriaid ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 7