Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 6:28-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Oherwydd yn y diwedd cei brofi ei gorffwystra hi,a throir hi yn llawenydd iti.

29. Daw ei llyffetheiriau yn gysgod cryf iti,a'i haerwyon yn wisg ysblennydd.

30. Oherwydd addurn aur yw ei hiau hi,a phleth o borffor yw ei rhwymau.

31. Fel gwisg ysblennydd y gwisgi hi,a'i gosod ar dy ben yn dorch gorfoledd.

32. Os mynni, fy mab, cei dy hyfforddi,ac os rhoddi dy fryd ar hynny, cei bob rhyw fedr.

33. Os byddi'n hoff o wrando, fe dderbynni addysg,ac os bydd dy glust yn agored, fe ddoi'n ddoeth.

34. Saf yng nghwmni'r henuriaid,a hola p'run sy'n ddoeth; glŷn wrth hwnnw.

35. Bydd fodlon i wrando ar bob traethiad duwiol,a phaid â cholli cyfle i glywed diarhebion deallus.

36. Os gweli rywun deallus, dos ato yn forea threulia garreg ei ddrws â'th draed.

37. Meddylia am ordeiniadau'r Arglwydd,a myfyria'n wastadol ar ei orchmynion.Rhydd ef gadernid i'th galon,a rhoddir iti'r ddoethineb yr wyt yn ei chwennych.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 6