Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O fod yn gyfaill, paid â throi'n elyn,oherwydd bydd enw drwg yn etifeddu gwarth a gwaradwydd;ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.

2. Paid â'th ddyrchafu dy hun yn dy ewyllys hunanol,rhag iti fel tarw dy ddarnio dy hun.

3. Byddi'n difa dy ddail ac yn dinistrio dy ffrwythau,ac yn dy adael dy hun fel pren crin.

4. Bydd natur ddrygionus yn dinistrio'i pherchennogac yn ei wneud yn gyff gwawd i'w elynion.

5. Y mae ymadroddion melys yn amlhau cyfeillion dyn,a geiriau mwyn yn amlhau moesgarwch.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 6