Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 50:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr archoffeiriad Simon fab Onias,dyma'r gŵr a atgyweiriodd y deml yn ystod ei fywyd,a chadarnhau'r cysegr yn ei ddydd.

2. Ganddo ef hefyd y gosodwyd sylfeini'r mur o ddau uchdwr,y mur uchel o amgylch mangre'r deml.

3. Yn ei ddydd ef y cloddiwyd y gronfa ddŵr,yn bwll tebyg i'r môr yn ei ehangder.

4. Dyma'r gŵr a roes ei fryd ar arbed ei bobl rhag cwympo,ac a gryfhaodd amddiffynfeydd y ddinas yn erbyn gwarchae.

5. Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpaswrth iddo ddod allan trwy len y deml!

6. Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;

7. fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,

8. fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,fel lili ger ffynnon o ddŵr,fel pren thus yn yr haf,

9. fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,fel llestr o aur coethwedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,

10. fel olewydden yn llwythog â ffrwyth,ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.

11. Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,wrth fynd i fyny at yr allor sanctaiddbyddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.

12. Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid,ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor,a'i frodyr yn dorch o'i amgylch,yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanonyng nghanol coedlan o balmwydd.

13. A holl feibion Aaron yn eu gwychder,ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo,yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 50