Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 48:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân,mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;

10. ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau,i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint,i gymodi tad â'i fabac i adfer llwythau Jacob.

11. Gwyn eu byd y rhai a'th weloddac a hunodd yn dy gariad;oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau.

12. Wedi i Elias ddiflannu yn y corwynt,llanwyd Eliseus â'i ysbryd ef.Trwy gydol ei ddyddiau ni tharfwyd arno gan lywodraethwr,ac ni allodd neb gael y trechaf arno.

13. Ni bu dim y tu hwnt iddo,ac wedi iddo huno, proffwydodd ei gorff.

14. Yn ei fywyd gwnaeth ryfeddodau,ac yn ei farwolaeth weithredoedd i synnu atynt.

15. Er hyn i gyd, nid edifarhaodd y bobl,na chefnu ar eu pechodau,nes eu dwyn yn ysbail o'u gwlada'u gwasgaru ar hyd a lled y ddaear.Gadawyd y genedl yn fechan iawndan lywodraethwr o dŷ Dafydd,

16. rhai ohonynt a'u gweithredoedd yn gymeradwy,ac eraill yn pentyrru pechodau.

17. Gwnaeth Heseceia ei ddinas yn gadarnle,a dwyn dŵr i mewn i'w chanol hi;tyllodd drwy'r graig ag offer o haearna llunio cronfeydd i'r dyfroedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 48