Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 48:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. rhai ohonynt a'u gweithredoedd yn gymeradwy,ac eraill yn pentyrru pechodau.

17. Gwnaeth Heseceia ei ddinas yn gadarnle,a dwyn dŵr i mewn i'w chanol hi;tyllodd drwy'r graig ag offer o haearna llunio cronfeydd i'r dyfroedd.

18. Yn ei ddyddiau ef daeth Senacherib i ymosod ar y wlad,ac anfonodd Rabsace o Lachis;cododd ei law yn erbyn Seion, gan ymffrostio'n drahaus.

19. Yna, a'u calonnau a'u dwylo yn gryndod i gyd,ac mewn gwewyr fel gwragedd yn esgor,

20. galwasant ar yr Arglwydd trugarog,gan estyn eu dwylo tuag ato;a buan y gwrandawodd yr Un Sanctaidd o'r nef arnynt,a'u gwaredu trwy law Eseia.

21. Trawodd wersyll yr Asyriaid,a'u difa trwy ei angel.

22. Oherwydd gwnaeth Heseceia yr hyn a ryngai fodd yr Arglwydd,a chadw'n ddiysgog at ffyrdd Dafydd ei gyndad,yn unol â gorchymyn Eseia,y proffwyd mawr y gellid ymddiried yn ei weledigaeth.

23. Yn ei ddyddiau ef fe drowyd yr haul yn ei ôl,ac estynnodd ef einioes y brenin.

24. Trwy ysbrydoliaeth fawr rhagwelodd y pethau olaf,a rhoes gysur i'r galarwyr yn Seion.

25. Datguddiodd y pethau oedd i ddod hyd ddiwedd amser,a'r pethau dirgel, cyn iddynt ddigwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 48