Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 48:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna cododd Elias, proffwyd a oedd fel tân,a'i air yn llosgi fel ffagl.

2. Daeth â newyn arnynt,a thrwy ei sêl fe'u gwnaeth yn ychydig.

3. Trwy air yr Arglwydd fe gaeodd y nefoedd,a'r un modd daeth â thân i lawr deirgwaith.

4. Mor ogoneddus fuost, Elias, yn dy weithredoedd rhyfeddol!Gan bwy y mae hawl i ymffrostio fel tydi?

5. Ti, yr hwn a gododd gelain o farwolaeth,ie, o Drigfan y Meirw, trwy air y Goruchaf;

6. a fwriodd frenhinoedd i ddistryw,a gwŷr o fri o'u gwelyau i'w tranc;

7. a glywodd geryddu yn Sinaia dyfarnu dial yn Horeb;

8. a eneiniodd frenhinoedd i dalu'r pwyth,a phroffwydi i fod yn olynwyr iddo;

9. a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân,mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;

10. ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau,i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint,i gymodi tad â'i fabac i adfer llwythau Jacob.

11. Gwyn eu byd y rhai a'th weloddac a hunodd yn dy gariad;oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 48