Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 46:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Galwodd ar yr Arglwydd nerthol,pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu,ac offrymodd oen sugno yn aberth.

17. Yna taranodd yr Arglwydd o'r nefa pharodd glywed ei lais â sŵn mawr.

18. Difaodd arweinwyr y Tyriaida holl lywodraethwyr y Philistiaid.

19. A chyn dyfod yr amser iddo fynd i'w hun dragwyddol,tystiolaethodd Samuel gerbron yr Arglwydd a'i eneiniog:“Ni ddygais ddim o'i eiddo oddi ar neb,naddo, ddim cymaint â'i sandalau.”Ac nid oedd neb a'i cyhuddodd.

20. Hyd yn oed ar ôl iddo huno, fe broffwydodda rhybuddio'r brenin o'i farwolaeth,gan fwrw ei lais i fyny o'r ddaearmewn proffwydoliaeth, i ddileu camwedd y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 46