Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 46:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gŵr nerthol mewn rhyfel oedd Josua fab Nun,olynydd Moses yn ei swydd broffwydol.Bu cystal â'i enw,yn rymus i roi gwaredigaeth i etholedigion yr Arglwydd,ac i ddial ar y gelynion a godai yn eu herbyn,er mwyn sicrhau ei hetifeddiaeth i Israel.

2. Mor ogoneddus ydoedd wrth godi ei ddwyloa chwifio'i gleddyf wrth ymosod ar ddinasoedd!

3. Pwy o'i flaen ef a safodd mor gadarn?Oherwydd ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd yr oedd ef.

4. Onid ei fraich ef a ataliodd yr haul,ac estyn un dydd dros ddau?

5. Galwodd ar y Goruchaf, y Duw nerthol,pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu,ac atebodd yr Arglwydd mawr ef â

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 46