Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 46:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gŵr nerthol mewn rhyfel oedd Josua fab Nun,olynydd Moses yn ei swydd broffwydol.Bu cystal â'i enw,yn rymus i roi gwaredigaeth i etholedigion yr Arglwydd,ac i ddial ar y gelynion a godai yn eu herbyn,er mwyn sicrhau ei hetifeddiaeth i Israel.

2. Mor ogoneddus ydoedd wrth godi ei ddwyloa chwifio'i gleddyf wrth ymosod ar ddinasoedd!

3. Pwy o'i flaen ef a safodd mor gadarn?Oherwydd ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd yr oedd ef.

4. Onid ei fraich ef a ataliodd yr haul,ac estyn un dydd dros ddau?

5. Galwodd ar y Goruchaf, y Duw nerthol,pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu,ac atebodd yr Arglwydd mawr ef â

6. grym nerthol storm o genllysg.Rhuthrodd ar y genedl mewn cyrch,a dinistrio'i wrthwynebwyr ar y goriwaered,i beri i'r cenhedloedd ddeall am ei arfogaeth lawn,fod ei filwriaeth dan ofal yr Arglwydd,oherwydd canlyn y Duw nerthol a wnaeth ef.

7. Yn nyddiau Moses hefyd fe brofodd ei deyrngarwch,ef a Chaleb fab Jeffune,trwy wrthwynebu'r cynulliadac atal y bobl rhag pechu,a rhoi taw ar eu grwgnach drygionus.

8. A dyma'r unig ddau a ddihangodd yn fyw,o'r chwe chan mil o wŷr traed,i gael mynediad i mewn i'w hetifeddiaethyn y wlad oedd yn llifeirio o laeth a mêl.

9. Rhoes yr Arglwydd i Caleb gryfdera barhaodd gydag ef hyd ei henaint,i'w alluogi i droedio ar uchelfannau'r wlady mae ei ddisgynyddion wedi ei meddiannu'n etifeddiaeth.

10. Felly daeth holl blant Israel i weldmai da yw canlyn yr Arglwydd.

11. A'r barnwyr hefyd, y mae i bob un ohonynt ei enw da,ni bu neb ohonynt yn anffyddlon yn ei amcanion,ac ni chefnodd neb ohonynt ar yr Arglwydd.Bendigedig fo'u coffadwriaeth hwy!

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 46