Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 44:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr oedd rhai yn wŷr cyfoethog a chryf eu hadnoddau,yn byw'n heddychlon yn eu cartrefi.

7. Y rhain i gyd, cawsant glod yn eu cenedlaethau,a dod yn achos ymffrost yn eu hamserau.

8. Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl,i bobl allu traethu eu clod yn llawn.

9. Ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth;darfu amdanynt fel pe baent heb eu geni;aethant fel rhai na fuont erioed,a'u plant ar eu holau yr un modd.

10. Ond nid felly ein cyndadau; gwŷr teyrngar oeddent hwy,ac nid aeth eu gweithredoedd da yn angof.

11. Trwy eu had fe eryseu hiliogaeth yn etifeddiaeth deg.

12. Saif eu had oddi mewn i'r cyfamodau,a thrwyddynt hwy, eu plant hwythau.

13. Fe erys eu had am byth,ac ni ddileir y clod sydd iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 44