14. Cleddir eu cyrff mewn heddwch,ond bydd eu henw'n fyw am genedlaethau.
15. Bydd pobloedd yn traethu eu doethineb,a'r gynulleidfa'n canu eu clod.
16. Rhyngodd Enoch fodd yr Arglwydd, a chymerwyd ef ymaith,yn batrwm o edifeirwch i bob cenhedlaeth.
17. Cafwyd Noa yn ŵr perffaith a chyfiawn,ac yn nydd digofaint fe ddaeth yn ddirprwy y byd.O'i achos ef gadawyd gweddill ar y ddaearpan ddaeth y dilyw.
18. Gwnaed cyfamod tragwyddol ag ef,na châi dim sy'n byw ei ddileu byth eto gan ddilyw.
19. Abraham oedd cyndad mawr llu o genhedloedd,ac ni chafwyd ei debyg mewn bri.
20. Cadwodd ef gyfraith y Goruchafa dod i gyfamod ag ef,gan roi nod y cyfamod ar ei gnawd;ac yn y prawf fe'i cafwyd yn ffyddlon.
21. Am hynny rhoes yr Arglwydd sicrwydd iddo trwy lwy câi cenhedloedd fendith trwy ei had ef,y lluosogai hwy fel llwch y ddaear,a'u dyrchafu fel y sêr,ac y byddai eu hetifeddiaeth yn ymestyno fôr i fôr,ac o'r Afon hyd eithafoedd y ddaear.
22. Rhoes yr un sicrwydd i Isaac,er mwyn Abraham ei dad,
23. am fendith i'r ddynolryw gyfan, a chyfamod;a pharodd iddynt orffwys ar ben Jacob.Fe'i cydnabu â'i fendithion,a rhoi iddo dir yn etifeddiaeth,gan bennu ei randiroedda'u dosbarthu rhwng y deuddeg llwyth.