Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 44:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Canwn fawl, yn awr, i wŷr o fri,ie, i'n cyndadau, a'n cenhedlodd ni.

2. Eu mawr ogoniant, yr Arglwydd a'i sicrhaodd,yn amlygiad o'i fawrhydi o ddechrau'r byd.

3. Bu rhai yn llywodraethwyr ar eu teyrnasoedd,ac yn wŷr enwog yn eu gallu nerthol.Bu eraill yn gynghorwyr yn eu dealltwriaeth,ac yn traethu geiriau proffwydoliaeth.

4. Bu rhai'n cyfarwyddo'r bobl â'u cynghorionac â'u dealltwriaeth o addysg y bobl,yn hyfforddi â geiriau doeth.

5. Yn eu plith yr oedd cyfansoddwyr cerddoriaethac awduron arwrgerddi ein llên.

6. Yr oedd rhai yn wŷr cyfoethog a chryf eu hadnoddau,yn byw'n heddychlon yn eu cartrefi.

7. Y rhain i gyd, cawsant glod yn eu cenedlaethau,a dod yn achos ymffrost yn eu hamserau.

8. Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl,i bobl allu traethu eu clod yn llawn.

9. Ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth;darfu amdanynt fel pe baent heb eu geni;aethant fel rhai na fuont erioed,a'u plant ar eu holau yr un modd.

10. Ond nid felly ein cyndadau; gwŷr teyrngar oeddent hwy,ac nid aeth eu gweithredoedd da yn angof.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 44