Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 43:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ei orchymyn ef sy'n prysuro'r eira,ac yn cyflymu mellt ei farnedigaethau.

14. Felly hefyd yr agorir yr ystordaii'r cymylau hedfan allan fel adar.

15. Â'i allu nerthol y crynhoir y cymylauac y melir y cesair mân.

16. Ar ei ymddangosiad fe ysgydwir y mynyddoedd,ac wrth ei ewyllys y chwyth y deheuwynt;

17. wrth sŵn ei daran y gwinga'r ddaear,a daw tymestl o'r gogledd, a chorwynt.Y mae'n taenu'r plu eira fel adar yn disgyn;dônt i lawr fel haid o locustiaid yn glanio.

18. Rhyfeddod i'r llygad yw tegwch eu gwynder,a syndod i'r galon yw eu gweld yn disgyn.

19. A'r barrug, y mae'n ei dywallt ar y ddaear fel halen,a hwnnw wedyn yn rhewi'n ddrain pigog.

20. Y mae gwynt oer y gogledd yn chwythuac yn caledu'r rhew ar wyneb y dŵr;ar bob cronfa o ddŵr fe ddaw'r rhew,a'r dŵr yn ei wisgo fel llurig.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 43