1. Godidowgrwydd yr uchelder yw gloywder y ffurfafen,a golwg ar y gogoniant yw ffurfiad y nefoedd.
2. Yr haul ar ei gyfodiad, ac yn ei ymdaith trwy'r nen,yn cyhoeddi rhyfeddod ei greadigaeth dan law'r Goruchaf,
3. ac yn crino'r holl wlad cyn canol dydd,pwy a saif yn wyneb ei wres tanbaid ef?
4. Y mae megino ffwrnais yn creu gwres tanbaid,ond teirgwaith tanbeitiach yw'r haul, sy'n troi'r mynyddoedd yn fflam,ei chwyth yn darth o dân,a disgleirdeb ei belydrau'n dallu pob llygad.
5. Mawr yw'r Arglwydd, creawdwr hwn;ef, â'i air, sy'n ei brysuro ar ei daith.
6. A'r lleuad wedyn, sy'n cadw ei hoed yn ddi-feth,hi sy'n datgan yr amserau ac yn nodi'r cyfnodau,
7. hi sy'n pennu dydd gŵyl—y goleuad sy'n gwanhau wrth ddod i ben ei rawd.
8. Wrthi hi yr enwir y mis,a hithau ar newydd wedd yn prifio'n rhyfeddol.Hi yw llusern lluoedd yr uchelder,yn rhoi ei goleuni yn ffurfafen y nef.
9. Y sêr yn eu gogoniant yw prydferthwch y nef,llu goleulon uchelderau'r Arglwydd.
10. Ar archiad yr Un Sanctaidd fe safant yn eu trefn,heb ddiffygio byth yn eu gwyliadwriaethau.
11. Edrych ar fwa'r enfys a folianna'i greawdwr;teg odiaeth yw ei lewyrch ef,
12. yn amgylchu'r nef â chylch o ysblander,wedi ei dynnu gan ddwylo'r Goruchaf.