Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 42:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Paid â gadael iddi ddangos ei thegwch i unrhyw ddyn,na chymryd ei chynghori gan y gwragedd.

13. Oherwydd o ddillad y daw pryf,ac o wraig ddrygioni gwraig.

14. Gwell yw drygioni dyn na gwraig dda ei gweithredoeddnad yw ond yn pentyrru gwarth ar waradwydd.

15. Cofiaf yn awr weithredoedd yr Arglwydd,a thraethaf yr hyn a welais;trwy eiriau'r Arglwydd y gwneir ei weithredoedd.

16. Fel y mae llewyrch yr haul yn treiddio i bob man,felly y mae gogoniant yr Arglwydd yn llenwi ei waith.

17. Ni roddodd yr Arglwydd i'w angylion sanctaidddraethu ei holl ryfeddodau,sef y rheini a lanwodd yr Arglwydd hollalluog â'i nerthi beri i'r cyfanfyd sefyll yn ddiysgog yn ei ogoniant ef.

18. Y mae'r dyfnder diwaelod, a'r galon, yn hysbys iddo,a'u holl droeau cudd yn wybyddus ganddo,oherwydd y mae'r Goruchaf yn meddu ar bob gwybodaeth,ac yn gweld arwyddion pob oes.

19. Y mae'n cyhoeddi'r pethau a fu, a'r pethau a fydd,ac yn datguddio llwybr pethau dirgel.

20. Ni ddihangodd unrhyw wybodaeth rhagddo,ac ni chuddiwyd dim un gair o'i olwg.

21. Rhoes drefn ar fawrion weithredoedd ei ddoethineb;y mae yn bod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,un nad oes ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho,a heb fod arno angen cyngor neb.

22. Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef,fel y gwelir hyd yn oed mewn gwreichionen.

23. Y mae pob un ohonynt a bywyd ynddi, ac yn para am byth,ac yn ufudd ym mhob defnydd a wneir ohoni.

24. Y mae dau o bob peth, y naill yn wrthwyneb i'r llall;ni wnaeth ef ddim yn ddiffygiol.

25. Y mae'r naill yn cadarnhau gwerth y llall.Pwy a all gael digon o syllu ar ei ogoniant ef?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 42