Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 42:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r pethau na ddylai fod arnat gywilydd ohonynt,rhag iti bechu wrth geisio plesio eraill:

2. o gyfraith a chyfamod y Goruchaf,a'r ddedfryd sy'n cyfiawnhau'r annuwiol;

3. o gadw cyfrif gyda chydymaith neu gyd-deithwyr,a derbyn rhodd dan ewyllys cyfeillion;

4. o fod yn fanwl gywir â chloriannau a phwysau,a phrynu pethau mawr a mân,

5. a gwneud elw trwy fargeinio â masnachwyr;o ddisgyblu mynych ar blant,a thynnu gwaed o ystlys caethwas drwg.

6. Peth da yw sêl lle bo gwraig ddidoreth,a chlo lle bo dwylo lawer.

7. Beth bynnag a roddi i'w gadw, cymer ofal i'w rifo a'i bwyso,ac ym mhob rhoi a derbyn, cadw gofnod ysgrifenedig.

8. Na foed cywilydd arnat o gywiro'r anwybodus a'r ynfyd,neu rywun oedrannus sy'n dadlau â phobl ifainc.Byddi felly yn dangos iti gael addysg wirioneddol,a byddi'n gymeradwy gan bawb.

9. Y mae merch yn bryder dirgel i'w thad,a phoeni amdani'n cadw cwsg draw:yn ei hieuenctid, rhag iddi fynd heibio i oed priodi,ac wedi iddi briodi, rhag i'w gŵr ddechrau ei chasáu;

10. yn ei gwyryfdod, rhag iddi gael ei halogia dod yn feichiog yn nhŷ ei thad,ac wedi iddi gael gŵr, rhag iddi droseddu,neu rhag iddi, yn wraig briod, fod yn ddi-blant.

11. Cadw ferch anhydrin dan warchodaeth lem,rhag iddi dy wneud yn gyff gwawd i'th elynion,yn destun siarad yn y ddinas, yn ddihareb ymhlith y bobl,a rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnat ger bron lliaws y boblogaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 42