Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 4:18-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yna fe ddychwel ato ar ei hunion, a'i lonnia datguddio iddo ei chyfrinachau.

19. Os crwydra ef oddi wrthi, bydd hi'n ei adaela'i draddodi i'w gwymp ei hun.

20. Gwylia dy gyfle ac ymgadw rhag drwg,a phaid â chywilyddio amdanat dy hun;

21. oherwydd y mae cywilydd sy'n dwyn pechoda chywilydd sy'n anrhydeddus a graslon.

22. Paid â dangos ffafriaeth i neb er drwg i ti dy hun,nac ymgreinio i neb er niwed i ti dy hun.

23. Paid ag ymatal rhag siarad pan fydd angen hynny.

24. Oherwydd adwaenir doethineb wrth ei hymadrodd,ac addysg wrth y gair a lefara.

25. Paid â dweud dim yn erbyn y gwirionedd,a bydd yn wylaidd ar gyfrif dy ddiffyg addysg.

26. Paid â bod â chywilydd cyffesu dy bechodau,na cheisio atal llif yr afon.

27. Paid â gorwedd ar lawr i'r ffôl sathru arnat,na dangos ffafriaeth i lywodraethwr.

28. Ymegnïa hyd at farw dros y gwirionedd,ac fe frwydra'r Arglwydd Dduw drosot tithau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 4