1. Fy mab, paid â dwyn ei fywoliaeth oddi ar y tlawd,na chadw llygaid yr anghenus i ddisgwyl.
2. Paid â thristáu'r sawl sy'n newynu,na chythruddo neb yn ei angen.
3. Paid â chyffroi mwy ar galon a gythruddwyd,na chadw'r cardotyn i ddisgwyl am dy rodd.
4. Paid â throi ymaith ymbiliwr yn ei gyfyngder,na throi dy wyneb oddi wrth y tlawd.
5. Paid â throi dy lygad oddi wrth un sy'n deisyf arnat,na rhoi lle i unrhyw un dy felltithio.
6. Oherwydd os bydd iddo, o chwerwder ei enaid, dy felltithio,bydd ei Greawdwr yn gwrando ar ei ddeisyfiad.
7. Gwna dy hun yn annwyl i'r gynulleidfa,a moesymgryma i'r mawrion.