Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 39:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Bydd llawer yn canmol ei ddeallusrwydd,na ddileir mohono byth;ni ddiflanna'r coffadwriaeth amdano,a bydd byw ei enw o genhedlaeth i genhedlaeth.

10. Bydd cenhedloedd yn traethu ei ddoethineb,a'r gynulleidfa'n canu ei glod.

11. Os caiff oes hir, bydd yn gadael enw sy'n rhagori ar fil,ac os â i'w orffwys yn gynnar, bydd hynny'n ddigon iddo.

12. Y mae gennyf eto fwy o feddyliau i'w traethu,oherwydd yr wyf mor llawn ohonynt â lleuad ganol mis.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 39