Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 39:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Rhydd ei fryd ar godi'n forei droi at yr Arglwydd, ei Greawdwr,i ymbil ger bron y Goruchaf,gan agor ei enau mewn gweddi,ac erfyn am faddeuant ei bechodau.

6. Os ewyllysia'r Arglwydd mawr,llenwir ef ag ysbryd deallus;yna fe dywallt eiriau ei ddoethinebac offrymu diolch i'r Arglwydd mewn gweddi.

7. Fe geidw ei gyngor a'i wybodaeth ar lwybr union,a myfyria ar y pethau cudd a ŵyr.

8. Fe amlyga ddisgyblaeth ei addysg,ac yng nghyfraith cyfamod yr Arglwydd y bydd ei ymffrost.

9. Bydd llawer yn canmol ei ddeallusrwydd,na ddileir mohono byth;ni ddiflanna'r coffadwriaeth amdano,a bydd byw ei enw o genhedlaeth i genhedlaeth.

10. Bydd cenhedloedd yn traethu ei ddoethineb,a'r gynulleidfa'n canu ei glod.

11. Os caiff oes hir, bydd yn gadael enw sy'n rhagori ar fil,ac os â i'w orffwys yn gynnar, bydd hynny'n ddigon iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 39