Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 39:23-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Felly y rhydd i'r cenhedloedd ei ddigofaint yn etifeddiaeth,fel pan droes y fro ddyfradwy yn anialdir hallt.

24. I'r duwiolfrydig y mae ei ffyrdd yn union,ond i'r drygionus yn llawn maglau.

25. Daioni i'r rhai da—dyna drefn y creu o'r dechrau—ond drygioni i bechaduriaid.

26. Y pennaf o holl reidiau pob un i fywyw dŵr, a thân, a haearn, a halen,a blawd gwenith, a llaeth, a mêl,a sudd grawnwin, ac olew, a dillad.

27. Y mae'r pethau hyn oll er lles i'r rhai duwiol;ond fe'u troir yn bethau er niwed i bechaduriaid.

28. Y mae gwyntoedd a grewyd i ddibenion dial,a'u ffrewyll yn ddidostur yn ei ddicter ef;pan ddaw amser y cyflawniad fe dywalltant eu nertha lleddfu dicter eu creawdwr.

29. Tân, a chenllysg, a newyn, a marwolaeth,crewyd y rhain i gyd i ddibenion dial;

30. dannedd bwystfilod hefyd, ac ysgorpionau, a gwiberod,a'r cleddyf sy'n dial ar yr annuwiol a'u lladd.

31. Llawenychu a wnânt yn ei orchymyn ef,yn barod ar y ddaear at ei alwad;a phan ddaw'r amser ni fyddant yn anufudd i'w air.

32. Dyna pam y bûm yn ddisyfl o'r dechrau;myfyriais ar y peth, ac ysgrifennu cofnod i'w adael:

33. Gweithredoedd yr Arglwydd sy'n dda bob un,ac fe ddiwalla ef bob angen yn ei bryd.

34. Ni ddylai neb ddweud, “Y mae hwn yn waeth na hwnyna.”Oherwydd fe brofir popeth yn dda yn ei bryd.

35. Ac yn awr, canwch â'ch holl galon ac â'ch holl lais,a bendithiwch enw'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 39