Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 39:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Y mae gweithredoedd pob un yn hysbys iddo,ac nid oes modd cuddio dim rhag ei lygaid.

20. O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb y mae ef yn gwylio,ac nid oes dim a all beri syndod iddo.

21. Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae popeth wedi ei greu at ei bwrpas ei hun.

22. Y mae ei fendith yn llifo fel afon,fel gorlif yn disychedu'r tir cras.

23. Felly y rhydd i'r cenhedloedd ei ddigofaint yn etifeddiaeth,fel pan droes y fro ddyfradwy yn anialdir hallt.

24. I'r duwiolfrydig y mae ei ffyrdd yn union,ond i'r drygionus yn llawn maglau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 39