Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 38:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw,ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus;amdoa ei gorff mewn modd gweddus,a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.

17. Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol,gwna dy alar yn deilwng ohono,am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti;yna, ymgysura yn dy dristwch;

18. oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth,a chalon drist sigo nerth dyn.

19. Mewn aflwydd, y mae tristwch hefydyn aros,ac y mae byw i rywun tlawd yn loes i'w galon.

20. Paid â gollwng dy galon i dristwch,ond bwrw ef ymaith, a chofia am dy ddiwedd.

21. Paid â'i anghofio, oherwydd nid oes dychwelyd;ni wnei ddim lles i'r marw, a byddi'n dy niweidio dy hun.

22. Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau—arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.

23. Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys,ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc.

24. O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 38