Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 38:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.

14. Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwyddam lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen,i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.

15. A becho yn erbyn ei Greawdwr,rhodder ef yn nwylo meddyg.

16. Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw,ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus;amdoa ei gorff mewn modd gweddus,a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.

17. Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol,gwna dy alar yn deilwng ohono,am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti;yna, ymgysura yn dy dristwch;

18. oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth,a chalon drist sigo nerth dyn.

19. Mewn aflwydd, y mae tristwch hefydyn aros,ac y mae byw i rywun tlawd yn loes i'w galon.

20. Paid â gollwng dy galon i dristwch,ond bwrw ef ymaith, a chofia am dy ddiwedd.

21. Paid â'i anghofio, oherwydd nid oes dychwelyd;ni wnei ddim lles i'r marw, a byddi'n dy niweidio dy hun.

22. Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau—arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.

23. Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys,ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc.

24. O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.

25. Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr,a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen,a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eugyrru yn eu gwaith,heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?

26. Ar droi cwysi y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.

27. Felly hefyd y mae pob crefftwr a meistr crefftsydd wrth ei waith nos a dydd:y rhai sy'n ysgythru ar seliau,gan ddyfal amrywio'r patrymau;ar gael yr union debygrwydd yn y llun y rhoddant eu bryd,a chollant eu cwsg i orffen y gwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 38