12. Yna, rho gyfle i'r meddyg, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau;paid â'i anfon ymaith, oherwydd y mae ei angen arnat.
13. Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.
14. Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwyddam lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen,i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.
15. A becho yn erbyn ei Greawdwr,rhodder ef yn nwylo meddyg.
16. Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw,ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus;amdoa ei gorff mewn modd gweddus,a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.
17. Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol,gwna dy alar yn deilwng ohono,am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti;yna, ymgysura yn dy dristwch;
18. oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth,a chalon drist sigo nerth dyn.
19. Mewn aflwydd, y mae tristwch hefydyn aros,ac y mae byw i rywun tlawd yn loes i'w galon.
20. Paid â gollwng dy galon i dristwch,ond bwrw ef ymaith, a chofia am dy ddiwedd.
21. Paid â'i anghofio, oherwydd nid oes dychwelyd;ni wnei ddim lles i'r marw, a byddi'n dy niweidio dy hun.
22. Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau—arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.
23. Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys,ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc.
24. O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.
25. Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr,a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen,a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eugyrru yn eu gwaith,heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?
26. Ar droi cwysi y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.