12. Yna, rho gyfle i'r meddyg, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau;paid â'i anfon ymaith, oherwydd y mae ei angen arnat.
13. Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.
14. Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwyddam lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen,i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.
15. A becho yn erbyn ei Greawdwr,rhodder ef yn nwylo meddyg.
16. Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw,ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus;amdoa ei gorff mewn modd gweddus,a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.
17. Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol,gwna dy alar yn deilwng ohono,am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti;yna, ymgysura yn dy dristwch;
18. oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth,a chalon drist sigo nerth dyn.