Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 38:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Rho i'r meddyg yr anrhydedd sy'n ddyledus am ei wasanaeth,oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau.

2. Oddi wrth y Goruchaf y daw ei ddawn i iacháu,a chan y brenin y bydd yn derbyn rhodd.

3. Rhydd ei wybodaeth i'r meddyg safle aruchel,ac ennill iddo edmygedd yng ngŵydd y mawrion.

4. Creodd yr Arglwydd o'r ddaear gyffuriau meddygol,ac ni ddirmyga neb call mohonynt.

5. Onid â phren y melyswyd y dŵr,i wneud yn hysbys y rhin oedd iddo?

6. Rhoes ef i bobl wybodaeth,er mwyn cael ei ogoneddu trwy ei ryfeddodau.

7. Trwyddynt hwy y mae meddyg yn iacháu a symud y boen,

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 38