Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 35:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Rho ogoniant i'r Arglwydd yn hael,heb warafun iddo ddim o flaenffrwyth llafur dy ddwylo.

9. Bydd siriol dy wyneb ym mhob rhoi,a bydd lawen wrth gysegru dy ddegwm.

10. Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti,yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.

11. Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd,ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint.

12. Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn;a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn;oherwydd barnwr yw'r Arglwyddnad yw'n ystyried safle neb.

13. Yn ddi-dderbyn-wyneb yn achos y tlawd,fe wrendy ar ei ble os cafodd gam.

14. Ni fydd byth yn ddiystyr o ddeisyfiad yr amddifad,nac o'r weddw sy'n tywallt ei chŵyn.

15. Onid yw dagrau'r weddw yn llif ar ei gruddiau,wrth iddi lefain yn erbyn y sawl a'u cyffrôdd?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 35